Tyfwyr y Fro yn dod â Gwyrddion Ffres i Ysgolion Lleol

Mewn partneriaeth â Synnwyr Bwyd Cymru, Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a’r Big Fresh Catering Company, mae Tyfwyr Bro brwdfrydig yn helpu i gael mwy o lysiau lleol organig ar fwydlen Ysgolion Bro Morgannwg. Mae Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy'n ceisio ail-ddylunio cadwyni cyflenwi lleol i'w gwneud yn decach ac yn fwy gwydn.
Ar hyn o bryd dim ond 6 % o lysiau a weinir yn ysgolion Cymru sy'n cael eu tyfu yng Nghymru, a'r gweddill yn cael eu mewnforio. Nod y prosiect hwn yw gwrthdroi’r duedd honno drwy gefnogi ffermwyr agroecolegol a rhoi ffrydiau incwm newydd neu amgen i dyfwyr a ffermwyr, tra ar yr un pryd yn cysylltu plant â’r bwyd y maent yn ei fwyta a sut y caiff ei dyfu.
Yn 2024, daeth 10 o ysgolion y Fro gan gynnwys Ysgol St Baruc yn y Barri yn rhan o’r prosiect gyda thyfwyr lleol yn cymryd rhan o Tresimwn.
Yn 2025 mae tyfwyr newydd y Fro yn ymuno â’r prosiect, gan gyflenwi cynnyrch trwy Bishops a Big Fresh Catering i’r Bwyd a Hwyl yn Haf 2025 a bwydlenni ysgol diwedd yr Haf a’r Hydref o nifer cynyddol o ysgolion yn y Fro.
