Mae gan Fro Morgannwg dreftadaeth gyfoethog o ran bwyd a ffermio. Rydym am ddathlu ein harwyr bwyd a diod a hyrwyddo ein cynhyrchwyr lleol, yn enwedig y rhai sy'n mynd gam ymhellach i gynhyrchu cynnyrch diogel, blasus a ffres, cefnogi'r economi leol a gofalu am ein hamgylchedd naturiol. P'un a ydych am brynu'n lleol, dewis yn tymhorol neu ddysgu mwy am y cynnyrch bwyd wed'i wedi'i dyfu o'r dirwedd lleol, mae'r tudalennau hyn yn mynd â chi ar ddarganfyddiad blasus o gynhyrchwyr bwyd a diod arobryn ac arloesol ein sir. Mae cefnogi cynhyrchu bwyd lleol o fudd i bawb, ein heconomi, yr amgylchedd, ein diwylliant a’n cymunedau.
O ffrwythau a llysiau organig lleol yn llawn blas, te crefftus, cigoedd wedi'u bwydo â phorfa yn lleol, hufen iâ nefolaidd, llaeth a gwin arobryn neu wefr marchnad ffermwyr fywiog. Mae’r Fro yn cynnig y cyfan a mwy i’w flasu, ei fwynhau, ei archwilio, felly cymerwch olwg a llenwch eich basged siopa gyda’r gorau oll o flas Cymru o galon y sir a helpwch ein cynhyrchwyr lleol i ffynnu.