Eicon Gwefan

Telerau ac Amodau

Ymwadiad Rhwymedigaethau

Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth ar wefan Croeso'r Fro, mae rhai manylion yn agored i newid. Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau Cyngor Bro Morgannwg sy'n rheoli'r wefan - gan adolygu a datblygu'r cynnwys yn gyson. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch cywirdeb y cynnwys ar y wefan, ffoniwch 01446 704867 neu e-bostiwch tourism@valeofglamorgan.gov.uk

Mae Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau Cyngor Bro Morgannwg a Media Design (y cwmni sy'n cynnal y wefan) yn gwneud pob ymdrech i wirio'r ffeiliau sydd ar gael i'w lawrlwytho ar y safle hwn. Nid yw'r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan y defnydd o ddeunydd y gellir ei lawrlwytho o'r safle hwn. Rydym yn argymell bod defnyddwyr yn ail-wirio'r holl ddeunydd a lawrlwythwyd gyda'u meddalwedd gwrth-firws eu hunain.

Gwefannau allanol

Mae'r wefan yn cynnwys hyperddolenni i wefannau a weithredir gan bartïon eraill. Nid ydym yn rheoli gwefannau o'r fath ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eu cynnwys, ac ni fyddwn yn ysgwyddo unrhyw atebolrwydd mewn perthynas ag ef. Nid yw cynnwys hyperddolenni i wefannau o'r fath yn awgrymu unrhyw gymeradwyaeth i safbwyntiau, datganiadau na gwybodaeth sydd wedi'u cynnwys mewn gwefannau o'r fath.

Hawlfraint

Mae holl eiddo deallusol gwefan Croeso'r Fro, megis marciau masnach, enwau masnach, patentau, dyluniadau cofrestredig ac unrhyw hawliau eiddo deallusol awtomatig eraill sy'n deillio o estheteg neu ymarferoldeb y wefan, yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Bro Morgannwg.

Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cytuno i barchu hawliau eiddo deallusol Croeso'r Fro, a byddwch yn ymatal rhag copïo, lawrlwytho, trosglwyddo, atgynhyrchu, argraffu, neu fanteisio at ddiben masnachol unrhyw ddeunydd sydd wedi'i gynnwys yn y wefan.