Dathliadau Diwrnod VE – Mai 2025
Ar 8 Mai 2025, bydd y DU yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE , gyda theuluoedd a chymunedau, yn dod at ei gilydd i uno a dathlu 80 mlynedd o heddwch ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.
Cynhelir gŵyl banc ddydd Llun 5 Mai, gyda nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol wedi’u cynllunio i nodi Diwrnod VE, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y dathliadau sydd wedi’u cynllunio ar wefan swyddogol Diwrnod VE.

Dathliadau Diwrnod VE ym Mro Morgannwg
Os ydych chi’n bwriadu dathlu Diwrnod VE gyda’ch ffrindiau, teulu neu gymuned ym Mro Morgannwg, bydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol i’ch helpu i drefnu digwyddiad diogel a llwyddiannus:
Partïon Stryd Diwrnod VE - Sy'n gofyn am gau ffordd
Cynllunio parti Diwrnod VE? Efallai y byddwch yn gymwys i gau ffordd am ddim.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn hepgor y ffi arferol ar gyfer cau ffyrdd ar strydoedd addas, gan ganiatáu i drigolion ddathlu’r achlysur hanesyddol hwn yn ddiogel.
I fod yn gymwys i gael ei chau, rhaid i'ch stryd:
✅ Bod yn ffordd bengaead neu ffordd fach gyda lefel traffig isel iawn
✅ Peidio â bod ar lwybr bws
✅ Cael cefnogaeth lawn yr holl drigolion yr effeithir arnynt
Sut i wneud cais:
Os yw'ch stryd yn bodloni'r meini prawf, bydd angen i chi:
- Cyflwyno cais cau ffordd – mae ffurflenni a T&Cs ar gael ar waelod y dudalen hon.
- Sicrhau bod yr holl drigolion yn gytûn – mae angen cefnogaeth unfrydol.
- Gwnewch gais cyn y dyddiad cau - Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Gwener, 11 Ebrill 2025 .
Dyddiadau Pwysig:
✔ Dim ond ceisiadau ar gyfer partïon stryd a gynhelir ddydd Llun 5 Mai neu ddydd Sadwrn 10 Mai 2025 , fydd yn cael eu hystyried.
Yswiriant
Nid yw'n ofynnol i drefnwyr partïon gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer eu digwyddiad, ond argymhellir yn gryf, gan na fyddai yswiriant y Cyngor yn berthnasol i'ch digwyddiad.
Asesiad risg
Byddai angen asesiad risg ar gyfer eich digwyddiad, i sicrhau bod gennych gofnod o'r risgiau a sut rydych yn bwriadu eu rheoli.
Mae enghreifftiau asesu risg yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a thempledi enghreifftiol y gallwch eu defnyddio.
Byddai angen cwblhau asesiad risg fel rhan o'ch cais i gau ffordd.
Trwyddedau – Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro (TEN)
Os dymunwch gyflawni unrhyw un o'r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol yn eich digwyddiad bydd angen i chi wneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (TEN).
- Gwerthu alcohol
- Darparu adloniant rheoledig megis perfformio drama, arddangosfa o ffilm, digwyddiadau chwaraeon dan do, bocsio a reslo, cerddoriaeth fyw neu wedi'i recordio a pherfformiad dawns
Mae Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn berthnasol ar gyfer digwyddiad a fydd â chapasiti o hyd at 499 ac yn costio £21.
Gwnewch gais am TEN yma.
Cymorth Cyntaf
Byddem yn argymell yn gryf bod rhywun sydd wedi’i hyfforddi mewn cymorth cyntaf gyda’r cit cywir, yn rhan o’ch digwyddiad, i gefnogi unrhyw un a allai fod ei angen.
Swn
A yw eich digwyddiad yn debygol o greu llawer o sŵn? Mae'n gwrtais rhoi gwybod i gymdogion a busnesau'r ardal beth yw eich cynlluniau cyn y digwyddiad. Gadewch rif ffôn gyda nhw fel y gallant ffonio os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu bryder.
Gwaredu Gwastraff
Y trefnydd yn y pen draw fydd yn gyfrifol am glirio'r holl sbwriel, gwastraff ac offer o'r stryd ar ddiwedd y digwyddiad.
Manylion cyswllt defnyddiol:
Gweler T&C ar ddiwedd y dudalen hon ac am unrhyw gwestiynau am ddigwyddiadau ym Mro Morgannwg – cysylltwch â’r Swyddog Digwyddiadau ar 01446704737 neu e-bostiwch sejones@valeofglamorgan.gov.uk