Bro Benigamp

Gan Emma Pietras, Awdur Teithio ar gyfer 'The Sun'

Oherwydd prinder staff a streiciau, nid yw mynd tramor yr haf hwn wedi bod yn bosibl i rai pobl - felly mae llawer wedi penderfynu mwynhau gwyliau’n lleol yn lle. Ond wrth i filiynau ohonon ni fynd i gyrchfannau gwyliau poblogaidd Dyfnaint a Chernyw, roeddwn i’n ysu am ddianc y torfeydd a mynd i rywle anghysbell.

Mae gan Dde Cymru lawer i'w gynnig ac mae'n llawer llai poblog na Dyfnaint a Chernyw.

Roeddwn i dal i chwilio am olygfeydd morol trawiadol ac awyr iach hallt ynghyd â golygfeydd dramatig boed law neu hindda — dyma'r DU, wrth gwrs. A gwnaethon ni daro’r nod gydag arfordir heb ei ddifetha Bro Morgannwg yn Ne Cymru.

Gan ymestyn 14 milltir o Aberddawan i Norton ger Porthcawl, mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn meddu ar draethau hardd, cildraethau diarffordd a chlogwyni garw.

Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Gwnaethon ni aros ym mhentref Southerndown, tua 20 munud mewn car o Ben-y-bont ar Ogwr, mewn ysgubor â thair ystafell wely wedi’i throsi’n hardd a fu unwaith yn hen dŷ ieir. Nid oes arwydd o’i hen ddefnydd - mae’r ystafelloedd yn olau iawn gyda llu o nodweddion unigryw gan gynnwys nenfydau bwaog a thrawstiau. Mae ar fferm waith ac mae'r dreif hir yn arwain i'r môr gyda llwybr trwy'r coed yn uniongyrchol i Fae Dwnrhefn a Llwybr Arfordirol De Cymru.

Wrth ei weld am y tro cyntaf, pwyntiodd fy mhlentyn bach yn gyffrous ato a gweiddi: “Bath!” Wel, mae’n debyg ei fod fel bath mawr, dim ond ychydig yn fwy tonnog — a heb ei swigod arferol. Mae Bae Dwnrhefn, y cyfeirir ato'n aml fel traeth Southerndown, yn boblogaidd gyda syrffwyr a helwyr ffosilau.

Ychydig fetrau yn ôl o'r lan mae gerddi â waliau ac adfeilion Castell Dwnrhefn - mae’n werth cael tro o amgylch y rhain. Os oes egni gennych, gallwch geisio cerdded ar hyd arfordir treftadaeth cyfan Morgannwg neu, fel ni, fynd ar hyd un o'r llwybrau cerdded byrrach neu'r llwybrau cylchol. Efallai na wnaethon ni ddewis y tywydd gorau ar gyfer ein taith gerdded ond o leiaf roedd y gwynt yn chwythu i'r cyfeiriad cywir ar y ffordd adref.

Ar ôl hynny, gwnaethon ni gael lluniaeth yn nhafarn The Three Golden Cups yn y pentref, sy'n gweini’r bwyd tafarn cartref gorau, gan gynnwys ei phei enwog, The Proper Pie.

Mae adfywiad go iawn mewn defnyddio cynnyrch o ffynonellau lleol yng Nghymru. Yn hyrwyddo'r achos mae Siop Fferm a Chegin Forage ar Fferm Ystâd Pen-llin ger y Bont-faen. Mae'n lle perffaith i deuluoedd, sydd â lle chwarae gwych y tu allan i blant.

Siop Fferma Cegin Forage 

Ar ôl cael tamaid i’w fwyta, gwnaethon ni lwytho ein basged gyda selsig o'r cigydd, nwyddau eraill a hyd yn oed afal am ddim pan wrthododd fy mhlentyn ei roi i gael ei bwyso.

Lle arall i deuluoedd yw Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, elusen fach sy'n cefnogi pobl ifanc difreintiedig ac agored i niwed drwy addysg amgen ac ymgysylltu â chymunedau. Wedi'i lleoli mewn 160 erw o gefn gwlad trawiadol ger y Barri, mae'n gartref i amrywiaeth o anifeiliaid, gan gynnwys moch, defaid, asynnod a hyd yn oed crwban.

Fferm Amelia Trust 

Mae'r llwybr corachod a thylwyth teg — detholiad o 25 o ddrysau tylwyth teg a chorachod yr ardd wedi'u cuddio ymysg y coed ar daith gerdded yn y coetir — yn boblogaidd iawn gyda phlant. Ac ni fyddai'r un trip i'r ardal yn gyflawn heb ymweliad ag Ynys y Barri — a wnaed yn enwog gan y rhaglen boblogaidd Gavin & Stacey.

Ar ôl edrych ar rai o’r pethau a welir yn y rhaglen, gwnaethon ni fwynhau adeiladu cestyll tywod a physgod a sglodion — roedden nhw mor dda yr aethon ni’n ôl i gael mwy. Rwy’n blentyn mawr ac yn methu peidio â mynd i’r arcedau ond yn anffodus nid oedd Nessa yno.

Y diwrnod wedyn, aethon ni i Benarth am dro. Mae'r dref lan môr yn gartref i bier Fictorianaidd, pafiliwn Art Deco a marina modern, lle stopion ni i gael cinio yn The Deck. Ar ôl mwy o bysgod a sglodion, aethon ni i Gaerdydd cyn cael y trên adref.

Pier Penarth 

Wrth fynd dramor, mae teithio’n gwastraffu gormod o’r gwyliau.

Dim ond am dair noson roedden ni ar wyliau. Eto, roedd yn teimlo fel ein bod wedi gwneud cymaint mwy gyda'r cyfuniad perffaith o hwyl glan y môr a gweithgareddau gwledig.

Awdur:
Gan Emma Pietras
Gwersylla ym Mro Morgannwg

Dewiswch Bwnc ysbrydoliaeth arall

Eicon Chwith
Gweld yr holl YSBRYDOLIAETH