LLWYBR GAVIN A STACEY

Llwybr Gavin a Stacey

Mae'r rhaglen boblogaidd iawn sydd wedi ennill gwobrau yn seiliedig ar stori cariad hyfryd rhwng gŵr ifanc swynol o'r enw Gavin o Essex a Stacey o'r Barri. Ac, heb anghofio wrth gwrs, eu teulu a'u ffrindiau sy'n ymuno yn yr hwyl ar hyd y ffordd. 

Un o brif feysydd ffilmio oedd, wrth gwrs, Ynys y Barri. Ac i osod y record yn syth; Dyw Ynys y Barri ddim yn Ynys bellach ac nid yw'n eiddo i rywun o'r enw Barry!    

Erbyn hyn mae miloedd o ymwelwyr o bedwar ban byd yn ymweld â'r Barri bob blwyddyn yn chwilio o'r lleoliadau eiconig lle ffilmiwyd y gyfres felly rydyn ni wedi llunio rhestr o rai o'r lleoliadau gafodd eu defnyddio yn y rhaglen.

Lleoliadau Ynys y Barri a'r Barri

Arcêd Island Leisure, O dan Lloches Gorllewin, Ynys y Barri - arcêd 'Slotiau' Nessa, lle bu'n gweithio yn y gyfres gyntaf.   Roedd Nessa a Bryn yn ymarfer eu deuawd i'r gân Frank a Nancy Sinatra 'Somethin Stupid' yma. Lleoliad

Siop Sglodion Boofy, Western Shelter, Ynys y Barri - hoff lleoliad sglodion Gavin a Stacey. Lleoliad

Caffi Marco, Ynys YBarri - yn ymddangos yn y credydau agoriadol, a lle mae Stacey'n gweithio yn y drydedd gyfres. Mae hyd yn oed arwydd yma lle gallwch chi gymryd hunlun. Lleoliad

Y Sgwâr, Ynys y Barri - Dyma lle ymadawodd Dave's Coaches i fynd â Stacey i Lundain i gwrdd â Gavin am y tro cyntaf. Mae Brit Movie Tours yn gweithredu taith Gavin and Stacey ar Dave's Coaches, beth am archebu sedd i chi'ch hun. Seiliwyd groto Nessa a Dave Coaches Santa yma ar y prom. Lleoliad

Ychydig y tu allan i Ynys y Barri, cynhaliwyd y ffilmio yn......

Heol Trinity, Y Barri, Dyma'r stryd y bu Gwen a Stacey'n byw arni gyda Doris drws nesaf ac Wncwl Bryn ar draws y ffordd. Maen nhw'n dweud bod omelettes Gwen yw'r gorau yng Nghymru! Lleoliad

Y Colcot Arms yw'r dafarn lle'r oedd Smithy yn feistr cwis. Lleoliad

Sgwâr y Brenin,Y Barri, y tu allan i'r Llyfrgell a Neuadd y Dref - lleoliad cerflun dynol Nessa. Lleoliad

Y Gwesty Tadross, 271 Heol Holton, Y Barri - cafodd hwn ei ddefnyddio ar gyfer parti bedydd Neil, y babi, yn y drydedd gyfres. Lleoliad

Tu allan i'r Barri, cynhaliwyd y ffilmio yn...

Y Gwesty Glendale, Heol Plymouth, Penarth - y bwyty Eidalaidd 'Luigi's', sef golygfa ddramatig yng nghyfres dau pan ddatgelodd Nessa ei bod yn feichiog ... a'r tad oedd Smithy! A hefyd cafodd Dawn a Pete eu noson 'ddyddiad' drychinebus. Lleoliad

Neuadd Eglwys yr Holl Saint, Ffordd Fictoria, Penarth - lleoliad Dawns penblwydd Gwen. Lleoliad

Eglwys Sant Cattwg, Llan-faes, y lleoliad ar gyfer priodas Gavin a Stacey. Lleoliad

 

Ac yn olaf .......

Defnyddiodd Eglwys Sant Pedr, Peterston-Super-Ely fel lleoliad priodas Nessa a Dave na fu erioed, a Gwasanaeth bedydd Neil, y babi. Lleoliad

Ond mae'r golygfeydd ar gyfer tŷ Gavin yn Essex yn cael eu saethu ar leoliad yn Ninas Powys mewn gwirionedd.

Os na fyddwch chi wedi bod am gyfnod neu os eich tro cyntaf chi, y mae Ynys y Barri yn sicr werth ymweliad. Edrychwch yma

Strict - Copwrite BBC TV Productions Ltd - Tom Jackson. Gyda diolch i'r BBC am ddefnydd o'r lluniau hyn.

Awdur:
Gwersylla ym Mro Morgannwg

Dewiswch Bwnc ysbrydoliaeth arall

Eicon Chwith
Gweld yr holl YSBRYDOLIAETH