Cynllunio Digwyddiad
Boed eich digwyddiad yn fawr neu'n fach, Swyddog Digwyddiadau'r Cyngor, Sarah Jones, yw'r pwynt cyswllt cyntaf gwych ar gyfer pob ymholiad.
01446 704737
[e-bost wedi'i ddiogelu]
Eich cyfrifoldebau
Fel trefnydd digwyddiadau, mae eich dyletswyddau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gynllunio, sicrhau diogelwch y cyhoedd, cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, a gweithrediad cyffredinol eich digwyddiad. Nod Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau (ESAG) Cyngor Bro Morganwg yw helpu trefnwyr gyda chynllunio a rheoli digwyddiad, ac annog cydweithrediad a chydlynu rhwng yr holl asiantaethau perthnasol. Mae'n cynnwys adrannau'r Cyngor fel Trwyddedu, Priffyrdd, Iechyd a Diogelwch, Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd, ynghyd â chynrychiolwyr o'r Heddlu, y gwasanaethau Tân ac Ambiwlans. Grŵp ymgynghorol yw'r ESAG, fodd bynnag, efallai y bydd gan aelodau unigol o'r grŵp hwn bwerau i fynnu bod trefnwyr digwyddiadau yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae'n cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ac, yn dibynnu ar natur y digwyddiad, gall yr ESAG wahodd trefnwyr digwyddiadau i gyfarfod â nhw i drafod eu digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth am yr ESAG cysylltwch â Swyddog Digwyddiadau'r Cyngor ar 01446 704737 neu [email protected]
Rhwydwaith Digwyddiadau'r Fro
Wedi'i redeg ers 2009, mae Rhwydwaith Digwyddiadau'r Fro ar agor i grwpiau ac unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu a chyflwyno digwyddiadau o safon ym Mro Morganwg. Mae ffi aelodaeth flynyddol o £50, sy'n rhoi mynediad i drefnwyr digwyddiadau at y cyngor diweddaraf, cyfleoedd rhwydweithio a defnyddio stoc o offer digwyddiadau sy'n cynnwys gazebos trwm, byrddau, PA, radios digwyddiadau, fframiau 'A' a diffoddwyr tân. Am ragor o wybodaeth am y rhwydwaith cysylltwch â Swyddog Digwyddiadau'r Cyngor ar 01446 704737 neu [email protected]
Hyrwyddo eich digwyddiad
Gallwn ni hefyd helpu i hyrwyddo eich digwyddiad drwy ei ychwanegu at y wefan hon a’i grybwyll ar Facebook, Twitter ac Instagram @visitthevale. Anfonwch fanylion eich digwyddiad drwy e-bost at Julie Morgan yn [email protected]
Ydych chi'n berfformiwr?
Mae Swyddog Digwyddiadau'r cyngor bob amser yn chwilio am berfformwyr, bandiau, darparwyr crefftau, arlwywyr symudol, bariau ac adlonwyr stryd newydd i gymryd rhan mewn digwyddiadau'r Cyngor yn y dyfodol. Os hoffech chi gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at [email protected]
Cyllid ar gyfer Digwyddiadau ym Mro Morgannwg
Efallai y bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gallu cynnig cymorth ariannol i drefnwyr digwyddiadau sydd am gyflwyno digwyddiadau ym Mro Morgannwg, o dan un o'r cynlluniau ariannu hyn:
Cynllun Grant Digwyddiadau
Mae hyn yn rhoi cymorth i ddigwyddiadau sy'n codi proffil Bro Morgannwg, yn gwella ei enw da fel cyrchfan digwyddiadau o safon, yn ategu digwyddiadau sy'n bodoli eisoes, yn dod â budd economaidd i'r rhanbarth ac sydd â'r potensial i ddenu ymwelwyr sy'n aros a dydd.
I ddechrau, rhaid i ymgeiswyr drafod eu cynnig gyda'r Swyddog Digwyddiadau. Unwaith y bernir bod y cynnig yn gymwys, gellir cyflwyno ffurflen gais lawn. Gwneir hyn yn flynyddol gyda chyllid wedi'i sicrhau ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol.
Cynllun Grant Digwyddiadau Newydd
Ar ôl cefnogi llawer o ddigwyddiadau llwyddiannus, mae'r Cyngor a nawr am ehangu'r cynnig drwy helpu digwyddiadau annibynnol newydd i sefydlu eu hunain a thyfu. Gall trefnwyr digwyddiadau newydd wneud cais am gyllid o hyd at £1,000. Bydd yn rhaid i Drefnwyr Digwyddiadau ddangos bod eu digwyddiad yn bodloni nifer o feini prawf a mwy yn darparu rhywfaint o arian cyfatebol, er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid o hyd at £1,000, rhaid i drefnwyr ddangos bod ganddynt arian cyfatebol a bod eu digwyddiadau'n bodloni Nodiadau Canllaw a Meini Prawf y Cynllun Grant Digwyddiadau Newydd. Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu gan banel sy'n cyfarfod yn rheolaidd, hyd nes y bydd y gronfa gyfan wedi'i dyrannu.