Cynllun Grant Digwyddiadau Bro Morgannwg 2023/24

Grant cyllid i gefnogi digwyddiadau ym Mro Morgannwg

Nawr ar agor! Mae ein cynllun grant cyllid i gefnogi digwyddiadau ym Mro Morgannwg bellach ar agor.

Mae Bro Morgannwg wedi sefydlu enw da iawn fel cyrchfan sy'n cynnig digwyddiadau o safon drwy gydol y flwyddyn. Eleni, mae dwy ffrwd i'n cynllun grant; un ar gyfer cefnogi digwyddiadau ar gyfer ymwelwyr a'r llall i gefnogi digwyddiadau cymunedol lleol.

Digwyddiaday ar gyfer Ymwelwyr 

Rydym yn gwahodd ceisiadau i gefnogi digwyddiadau sy’n ymwneud ag ymwelwyr sydd â photensial cryf i ddenu ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal leol, boed hynny o ranbarthau eraill neu wledydd eraill ac a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol, megis drwy gynhyrchu refeniw i fusnesau lleol, creu swyddi, neu hyrwyddo'r rhanbarth fel cyrchfan i dwristiaid.

Digwyddiadau Cymunedol

Gwahoddir hefyd ddigwyddiadau cymunedol sy’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, boed hynny’n golygu dod â phobl ynghyd, hyrwyddo busnesau lleol, neu godi ymwybyddiaeth at achos lleol penodol, i wneud cais.

Y manylion...

> Mae'r rownd ddiweddaraf o arian grant i gefnogi digwyddiadau bellach ar agor. Rhaid i bob cais ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 gael ei dderbyn cyn 31 Ionawr 2024 ar gyfer digwyddiadau a gefnogir rhwng Mai 2023 a diwedd Mawrth 2024.

> Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu ar sail y cyntaf i'r felin a'u dyfarnu tan ba bryd hynny mae'r pot grant digwyddiadau wedi'i ddyrannu'n llawn. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu'n fisol, gyda dyddiadau'n cael eu rhanny wrth gysylltu â'r Swyddog Digwyddiadau i drafod eich cynnig.

> Mae cyllid grant o hyd at £2500 fesul cais ar gael, a rhaid i unrhyw grant a ddyfernir beidio â bod yn fwy na 50% o gyfanswm costau'r digwyddiad.

> Mae'n rhaid i bob digwyddiad fod wedi ei leoli ym Mro Morgannwg.

> Gweler y Nodiadau Cyfarwyddyd am fanylion llawn.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio?

Rhaid i ymgeiswyr drafod eu syniad ar gyfer digwyddiadau gyda'r Swyddog Digwyddiadau cyn cyflwyno cais. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael ffurflen gais i'w llenwi wedi hynny.

Os ydych am gynllunio digwyddiad ym Mro Morgannwg ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01446 704 737

tourism@valeofglamorgan.gov.uk

Heb ganfod unrhyw eitem.
Eicon Lleoliad

Lleoliad