Ynghylch
Parc Romilly
Mae gan Barc Romilly wyrdd bowlio, cyrtiau tenis, ardal chwarae i blant, arddangosfeydd blodau tymhorol ac ardal agored fawr ar gyfer hamdden.
Adeiladwyd y parc yn wreiddiol ar dir a oedd yn perthyn i deulu Romilly yn 1898 ac fe'i cwblhawyd yn llawn yn 1911. Mae'n cadw'r rhan fwyaf o'r fframwaith a'r nodweddion gwreiddiol.
Mae Parc Romilly yn gyfeillgar i gŵn, mae ganddo doiledau cyhoeddus ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Ffordd wych o archwilio a darganfod y rhywogaethau coed gwahanol sydd i'w gweld ym Mharc Romilly, yw drwy lawrlwytho'r ap llwybrau coed realiti estynedig (AR) hwyliog sy'n cynnwys Cyril y Wiwer.
