Arweinlyfr i Dwristiaid Caerdydd a De-ddwyrain Cymru. Mae fy angerdd dros weithio gyda phobl a’m profiad o weithio ym maes gwybodaeth i dwristiaid yng Nghymru wedi arwain at gymhwyso fel tywysydd. Po fwyaf y teithiaf o amgylch Cymru y mwyaf y caf fy ngyrru i rannu ei harddwch, ei diwylliant a'i hanes. Wedi fy ngeni a'm magu yng Nghaerdydd dwi'n byw dafliad carreg o brifddinas Cymru ond dyw hynny ddim yn rhwystro fy angerdd am fyd natur a'r awyr agored. Gall ymwelwyr â Chaerdydd ddysgu cymaint am ein diwylliant drwy fynd ar daith o amgylch y ddinas ond i'r rhai sydd ag ychydig mwy o amser ar eu dwylo mae golygfeydd hardd, arfordir delfrydol ac wrth gwrs bryniau gwyrddlas Cymru o fewn cyrraedd agos.
Mae treulio mwy na degawd yn gweithio gydag ymwelwyr â Chymru wedi rhoi dealltwriaeth wych i mi o’r Lleoedd Mae ymwelwyr yn hoffi gweld y mwyaf a'r gallu i gyfathrebu'n glir. Mae ymwelwyr tramor yn fy ngweld yn hawdd iawn i'w deall os nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwn wrth fy modd yn eich tywys. Cysylltwch â mi.
[email protected] https://sarahswales.co.uk/ https://www.facebook.com/EpicWales +44 (0)7709247634