Amdan
Llwybr y Fro 5
Llwybr arfordirol llinol sy'n gyfoethog o ran nodweddion treftadaeth. Ymwelwch â Lavernock Point a oedd, yn 1897, yn safle trosglwyddiad radio cyntaf y byd dros y môr agored gan Marconi. Heddiw, fe welwch olion batri gwn o'r 19eg ganrif a gwarchodfa natur gyda gwrychoedd cyfoethog. Mwynhewch olygfeydd gwych o Pier Penarth a Bae Caerdydd wrth i chi fynd tua diwedd y llwybr.
Mae'r llwybr yn gyfeillgar i gŵn, heb unrhyw gamfeydd, dim anifeiliaid, nifer o finiau sbwriel cŵn, ac mae tafarn Y Capaains' Wife yn dafarn sy'n ystyriol o gŵn.
Lleoedd o ddiddordeb
- Ynys Sili
- Tafarn Y Captains' Wife
- Batri gwn Pwynt Lavernock
- Gwarchodfa Natur Pwynt Lavernock
- Plac Marconi yn Eglwys Sant Lawrence
- Esplanade Penarth
- Pier Penarth
Teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Cynlluniwch eich llwybr gan ddefnyddio'r cynllunydd trafnidiaeth. Dilynwch y ddolen i gael manylion yr holl lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn y Fro a'ch helpu i gynllunio eich taith ar y trên, bws neu ar droed.