Diolch am gymryd rhan yn Arolwg Trigolion Bro Morgannwg, Cymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae cymunedau ym Mro Morgannwg yn ystyried twristiaeth.
Mae'r Fro yn un o dair ardal beilot sy'n gweithio gyda Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Gwynedd a Sir Benfro wrth geisio barn trigolion lleol am dwristiaeth yn eu hardaloedd lleol.
Hoffem ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei chael ar ein cymunedau, beth yw'r manteision a'r anfanteision sy'n deillio ohono, a sut i lunio a sicrhau ei ddatblygiad cynaliadwy.
Bydd canfyddiadau'n cael eu defnyddio i lywio polisi twristiaeth yn y dyfodol, er mwyn ymateb i anghenion lleol yr holl gymunedau dan sylw.
Er mai ein nod yw sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, ni fyddwn yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i'ch adnabod. Bydd eich holl ymatebion yn gwbl gyfrinachol.
Mae eich cyfranogiad yn gwbl wirfoddol, ac rydych yn rhydd i dynnu'n ôl o'r arolwg ar unrhyw adeg.
Diolch am gymryd rhan yn Arolwg Trigolion Cymru. Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed eich barn!
Dilynwch y ddolen isod i gwblhau'r arolwg:
CWBLHEWCH YR AROLWG TRIGOLION YMA
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â ni ar tourism@valeofglamorgan.gov.uk