Ynghylch
The Milk Hut, Penuchadre Farm
Ffermwyr seithfed cenhedlaeth yw’r teulu Morgan, sy’n rhedeg fferm Penuchadre ym mhentref Saint-y-brid.
Wedi’i ardystio’n organig ers 2000, ethos y teulu ym Mhenuchadre yw rhoi’r ansawdd bywyd gorau oll i’w hanifeiliaid annwyl, gan bori porfeydd sy’n gyfoethog mewn meillion ar y fferm a chynhyrchu llaeth organig blasus, wrth weithio mewn cytgord â’r amgylchedd a bywyd gwyllt o’u cwmpas. Mae'r fferm wedi arallgyfeirio i werthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr lleol yn "The Milk Hut".
Mae'r peiriannau gwerthu llaeth Organig yn gwerthu llaeth ffres wedi'i basteureiddio bob dydd. Mae Milkshakes a choffi hefyd ar gael i’w prynu gan ddefnyddio’r llaeth ffres – gydag amrywiaeth gyffrous o flasau Milkshakes ar gael, mae wastad rhywbeth newydd i roi cynnig arno. Mae poteli y gellir eu hailddefnyddio ar gael i'w prynu a'u defnyddio neu mae croeso i ddefnyddwyr ddod â rhai eu hunain gyda nhw, er mwyn sicrhau eu bod yn llaeth gynaliadwy lleol, organig, a blasus.
Mae ail beiriant gwerthu hefyd ar gael i ymweld ag ef a'i brynu o Benuchadre Organic Dairy yn The Station yn Llangrallo.