Ynghylch
Slade Farm Organics
Mae Slade Farm Organics yn fferm organig gymysg sy’n ymestyn dros 800 erw sy’n cael ei rhedeg gan Polly a Graeme, ffermwyr trydedd genhedlaeth yn Saint-y-brid.
Maent yn ffermio gyda natur ac yn gweithio gyda'r gymuned leol i ddarparu cynnyrch organig cynaliadwy trwy gydol y flwyddyn. Mae eu system ffermio wedi’i seilio ar gynaliadwyedd, gan ddefnyddio cylch caeedig o faetholion sy’n golygu bod holl anifeiliaid a chnydau’r fferm yn cael eu bwydo o barsel o dir y fferm ei hun, yma ym Mro Morgannwg, De Cymru.
Mae Fferm Slade yn epitome o fenter fferm wirioneddol gynaliadwy, gyda’r holl gynnyrch yn cael ei eni, ei fagu a’i gynaeafu ar y fferm.
Mae’r cynnyrch yn cynnwys cigoedd organig/bocsys cig, blawd organig Cymreig a bagiau llysiau organig tymhorol. Gellir casglu bocsys cig o’r siop neu eu danfon yn uniongyrchol (gweler y wefan am fanylion). Mae'r bagiau Llysiau Organig yn cael eu trefnu fel Cynllun Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned sy'n sicrhau manteision i'r gymuned ehangach.
Mae’r Siop Fferm ar agor rhwng Mehefin a Rhagfyr ar ddydd Iau a dydd Sadwrn yn unig, mae’r oriau agor yn dymhorol felly gwiriwch yr amseroedd agor cyn teithio neu gynllunio ymweliad.
#CaruLleol.