Llanblethian Orchard

Eicon lleoliad
Y Bont-faen a'r Fro Wledig

Ynghylch

Llanblethian Orchard

Gwneuthurwr seidr a thyfwr perllannau traddodiadol yng nghanol Bro Morgannwg yw Llanblethian Orchards.  

Mae'r berllan yn un safonol a draddodiadol lawn wedi'i phlannu ar dwmpathau solet uchel yn null gwastadeddau Gwent. Nid yw'n cael ei chwistrellu a caiff ei reoli mewn trefn o dorri cyn lleied â phosibl er mwyn annog bioamrywiaeth.  

Mae gan y berllan dros 50 o fathau o afalau a gellyg gan gynnwys mathau prin o Gymru a'r gororau. Mae’r seidr arobryn yn arbenigo mewn seidr fferm llonydd traddodiadol a seidr crefft pefriog modern gan gynnwys seidr steil Ffrengig a Pet-Nat. Mae finegr seidr ac amrywiaeth o berïau hefyd yn cael eu cynhyrchu ac ar gael o'r berllan.

Gellir dod o hyd i gynnyrch Llanblethian Orchard ym Marchnadoedd Ffermwyr y Bont-faen yn ogystal â’u cyflenwi’n uniongyrchol i dafarndai a bariau ar draws De Cymru a gwyliau cwrw/seidr ledled y wlad.

O bryd i'w gilydd, mae Llanblethian Orchard yn cynnal digwyddiadau a sesiynau blasu o'r Ysgubor Seidr.

Gweld ar y map
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.
Gwersylla ym Mro Morgannwg
Eicon lleoliad

Lleoliad Cynhyrchydd

s

Gellir dod o hyd i'r cynhyrchydd hwn Marchnad Ffermwyr Y Bont-Faen - Cowbridge Farmer's market, bob dydd Sadwrn yn y Bont-faen 9.00am tan 1.00pm

Pa Dri Gair (What Three Words):