I Spy Pies Ltd

Eicon lleoliad
Y Bont-faen a'r Fro Wledig

Ynghylch

I Spy Pies Ltd

Mae I Spy Pies yn llawn dop o flasau blasus a chynhwysion o ansawdd uchel.  

Wedi ymrwymo i gyrchu cynhwysion yn gyfrifol, defnyddio wyau cyw iâr 'lle i grwydro', cig eidion Angus Cymreig a Chig Oen Cymru wedi'i fwydo ar borfa o Fferm Pwllywrach yn Nhregolwyn, a phorc maes o Fferm Ty Siriol ym Mhontaddulais.  

Yn ogystal, mae'r busnes wedi ymrwymo i arferion ecogyfeillgar trwy ddefnyddio pecynnau compostadwy ac ailgylchadwy a chompostio'r holl wastraff bwyd posibl. Gwasanaeth cwsmeriaid uchel yw conglfaen I Spy Pies gan sicrhau profiad gofalgar a phersonol sy'n darparu ar gyfer opsiynau fegan a llysieuol.  

Nod sylfaenydd y busnes Catherine yw cynnig bwyd cysurus cartrefol blasus sy’n parchu’r blaned ac sy’n cynnal ansawdd uchel, sydd wedi’i adeiladu o yrfa sy’n gyforiog o brofiad yn y sector arlwyo, gan gynnwys cacennau priodas a gwasanaeth bwyd cain wedi’u crefftio â llaw.

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer "I Spy Pies", mae'r busnes yn ehangu i gynnwys gwasanaethau arlwyo symudol i ddarparu pasteiod poeth blasus gyda'r holl gyfeiliant i ddigwyddiadau cymdeithasol a chwaraeon, gwyliau, priodasau ac crynoadau teuluol cofiadwy. Gwyliwch allan am fwy o manylion!

Gweld ar y map
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.
Gwersylla ym Mro Morgannwg
Eicon lleoliad

Lleoliad Cynhyrchydd

s

Gellir dod o hyd i'r cynhyrchydd hwn Marchnad Ffermwyr Y Bont-Faen - Cowbridge Farmer's market, bob dydd Sadwrn yn y Bont-faen 9.00am tan 1.00pm

Pa Dri Gair (What Three Words):