Blue Lias Farm Shop

Eicon lleoliad
Llanilltud Fawr ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Ynghylch

Blue Lias Farm Shop

Mae Blue Lias Farm Shop yn llawn stoc o gynnyrch Elwyn, wedi’i dyfu a’i gynhyrchu ar y fferm sydd wedi’i lleoli yn Sain Dunwyd.

Mae'n ymroddedig i'r dulliau traddodiadol o drin llysiau a chodi da byw heb ddefnyddio unrhyw wrtaith artiffisial na phlaladdwyr. Maent yn defnyddio cylchdro cnydau amrywiol ynghyd â defnydd integredig o wartheg, defaid a moch i gynnal a gwella ffrwythlondeb y pridd. Gan alluogi'r fenter i dyfu a chynhyrchu ystod amrywiol o lysiau tymhorol ffres ac iach heb unrhyw fewnbynnau artiffisial.

Mae gan y busnes hefyd feithrinfa fechan sy’n dechrau ac yn meithrin eginblanhigion ei hun, yn tyfu tomatos, ciwcymbrau a saladau eraill ac yn gobeithio arbrofi gydag ymestyn y tymhorau tyfu.

Mae Blue Lias Farm Shop yn falch iawn o gynhyrchu a chyflenwi bwyd ffres ac iach sydd ar gael yn uniongyrchol yn Blue Lias Farm Shop, sydd wedi’i lleoli yn Llanilltud Fawr.

Gweld ar y map
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.
Gwersylla ym Mro Morgannwg
Eicon lleoliad

Lleoliad Cynhyrchydd

s

Gellir dod o hyd i'r cynhyrchydd hwn Marchnad Ffermwyr Y Bont-Faen - Cowbridge Farmer's market, bob dydd Sadwrn yn y Bont-faen 9.00am tan 1.00pm

Pa Dri Gair (What Three Words):
/// loans.apart.distilled