Ynghylch
Bonvilston Edge
Mae Bonvilston Edge yn tyfu ffrwythau a llysiau i'r gorllewin o Dresimwn mewn cae 9 erw.
Mae'r perchnogion Geraint ac Emma yn cefnogi'r prosiect Llysiau Cymreig mewn Ysgolion, yn cyflenwi cynnyrch Forage Farm Shop yn y Bont-faen ac mae Bonvilston Edge ar gael hefyd ym Mhantri i Bawb yn y Barri.
Mae'r busnes hefyd yn falch o gyflenwi cwsmeriaid yn uniongyrchol trwy eu platfform gwerthu ar-lein.
Gall Bonvilston Edge gyflenwi cynnyrch garddwriaeth o safon i westai, bwytai a chaffis lleol yn ystod y tymor tyfu, felly cysylltwch ag unrhyw ymholiadau.