Ynghylch
Baked by Mel
Baked by Mel, Bara Brith Cymreig traddodiadol wedi'i bobi'n ffres yn y cartref mewn sypiau bach.
Mae Mel yn angerddol am ddefnyddio wyau buarth lleol yn ei phobi ac yn ymfalchïo mewn cacennau da wedi’u gwneud yn y ffordd hen ffasiwn. Ymhlith y cynhyrchion mae cacennau torth, cacennau bach, brownis, blondies a danteithion amser te eraill. Mae'r Bara Brith ar gael i'w harchebu trwy wefan y cwmni i'w hanfon at anwyliaid ar draws y DU.
Mae cynaladwyedd o bwys i Baked by Mel a gwneir pob ymdrech i leihau'r defnydd o becynnu anadnewyddadwy. Mae torthau wedi'u lapio'n hyfryd mewn papur, wedi'u clymu â llinyn cotwm a'u rhoi mewn bocs cadarn y gellir ei ailgylchu sy'n dwyn y brand. Anfonwch fel anrheg neu ddanteithion hardd i'w rhannu gyda theulu a ffrindiau, mae'n dod â phobl ynghyd trwy gariad at fwyd.
Mae cynnyrch Baked by Mell hefyd i’w gael yn Forage Farm Shop, Welsh Coffee (Ogwr) ac ar adegau trwy gydol y flwyddyn ym Marchnad Ffermwyr y Bont-faen.