Amdan
Noson Sanctaidd - Geni Byw ym Mhorthcerri
Teithiwch gyda ni trwy Barc Porthceri a chwrdd â holl gymeriadau'r geni traddodiadol. Gydag asynnod, ceffylau, tanau ac angylion go iawn, côr oedolion, cymeriadau byw a charolau, mae hon yn ffordd berffaith o wahodd tawelwch, traddodiad a harddwch i'ch dathliadau blynyddol.
Er bod hwn yn ddigwyddiad perffaith i bobl o bob oed, mae'n daith gerdded hir ac efallai ei bod hi'n fwdlyd a glawog. Rhaid i ddeiliaid tocynnau allu cerdded hyd y parc (tua 1K) a gwisgo dillad cynnes, gwrth-ddŵr (os yn bwrw glaw) ac esgidiau addas.
