Amdan
Ras Bwni Pasg Ynys y Barri
Ymunwch â 'Calon Hearts' am eu Ras Bwni Pasg cyntaf erioed ar Ynys y Barri .
Mae'r Ras Hwyl 2K i'r teulu i gyd, gyda llwybr prydferth ar hyd prom a traeth Ynys y Barri.
Mae'r ras yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 26 Mawrth a bydd yr holl elw yn mynd yn uniongyrchol i'r elusen ar gyfer Sgrinio'r Galon a Diffibrilwyr.
Bydd yr hwyl yn dechrau am 10am gyda chofrestru a chynhesu ar y prom, gyda'r ras yn dechrau am 11am.
Bydd y bore yn ddechrau perffaith i gyfri lawr i'r Pasg ac yn hwyl i'r teulu i gyd.
Tocynnau £10 – Archebwch ar-lein neu ffoniwch 02922 402670